CYPE(5)-24-19 – Papur i’w nodi22
Annwyl Lynne
Deiseb P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried y ddeiseb uchod ers mis Ebrill 2017. Yn ystod yr amser hwnnw, mae'r Pwyllgor wedi ystyried ystod o wybodaeth a materion yn ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol ac wedi gohebu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.
Fodd bynnag, mae nifer o'r materion a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys darparu gwregysau diogelwch ar fysiau cyhoeddus a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i yrwyr, yn faterion a gedwir yn ôl i Senedd y DU. O ystyried hynny, yn ein cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2019, penderfynodd y Pwyllgor gau'r ddeiseb, gan ei bod yn ymddangos nad oedd llawer yn fwy y gallem ei wneud i symud y ddeiseb ymlaen.
Wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau dynnu sylw'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y ddeiseb, rhag ofn ichi ystyried edrych ar faterion yn ymwneud â chludiant ysgol yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb, gan gynnwys y testun llawn a’r ohebiaeth yn ei chylch, ar gael ar ein gwefan yn:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=24658
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm clercio'r Pwyllgor yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru.
Yn gywir
Janet Finch-Saunders AC
Cadeirydd